#                                                                                      

Papur Briffio ar gyfer y Pwyllgor Deisebau
Y Pwyllgor Deisebau | 5 Rhagfyr 2017
 Petitions Committee | 5 December 2017
 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil: Cael gwared ar agwedd orfodol Bagloriaeth Cymru

Rhif y ddeiseb: P-05-788

Teitl y ddeiseb: Cael gwared ar agwedd orfodol Bagloriaeth Cymru

Testun y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gael gwared ar agwedd orfodol Bagloriaeth Cymru ac adolygu strwythur y cwrs i sicrhau ei fod yn addas at y diben. Ar hyn o bryd mae’n cynnwys tasg sy’n annog gamblo dan oed a diofalwch ariannol.

Mae ein plant yn haeddu’r hawl i ragori ar y llwyfan byd-eang.  Mae tua 70% o’u hastudiaethau eisoes yn bynciau gorfodol ac mae Bagloriaeth Cymru yn cymryd cyfleoedd oddi wrthynt oherwydd na allant astudio’r holl bynciau y maent yn dymuno mynd ar eu trywydd. Efallai bod y 'cymhwyster' yn ffordd o dicio blwch ond nid yw’n helpu myfyrwyr Cymru i wireddu eu potensial (gweler y detholiad dilynol o adroddiad gan Lywodraeth Cymru). Bydd hyn yn cael effaith andwyol ar weddill eu bywydau ac ar eu rhagolygon gyrfa at y dyfodol.  Rhowch yr un cyfleoedd i blant sy’n astudio yn ysgolion Cymru â’r rheini o wledydd eraill y Deyrnas Unedig a gwnewch addysg Cymru yn rhywbeth i fod yn falch ohono eto.

Daw'r canlynol o adroddiad Llywodraethu Cymru ar CBC (Cymhwyster Bagloriaeth Cymru, Ionawr 2015) ac mae'n nodi - roedd canfyddiadau adroddiad WISERD yn ddeublyg yn bennaf. Daeth i'r casgliad fod CBC yn arbennig o werthfawr o ran paratoi pobl ifanc ar gyfer addysg uwch, o bosibl oherwydd y pwysau sydd ganddo yn nhariff UCAS. Ar yr un pryd, roedd yr adroddiad yn cefnogi canfyddiad blaenorol mewn adroddiad yn 2011 yn benodol ar Brifysgol Caerdydd nad oedd elfen Graidd CBC gyfwerth â gradd A Safon Uwch. At hynny, daeth i'r casgliad fod myfyrwyr gyda CBC yn fwy tebygol o dynnu'n ôl o'r brifysgol ac yn llai tebygol o sicrhau 'gradd dda', a ddiffinnir fel gradd Dosbarth Cyntaf neu radd Ail Ddosbarth Uwch.

Mae'r adroddiad yn dadlau y gall y ddau ganfyddiad fod yn gysylltiedig. Daw i'r casgliad yr ymddengys fod CBC yn gwella'r tebygolrwydd o fynd i'r brifysgol, gyda phopeth arall yr un peth; ond ymddengys y daw'r fantais hon ar draul canlyniadau llwyddiannus yn y brifysgol.

1.       Ymateb Ysgrifennydd y Cabinet

Yn ei llythyr i'r Pwyllgor, nododd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg y canlynol:

§    Roedd y gwaith ymchwil y cyfeiriodd y Deisebydd ato (Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD)) (2013) yn seiliedig ar Gymhwyster Bagloriaeth Cymru (CBC) flaenorol. Mae CBC ddiwygiedig wedi bod ar waith ers mis Medi 2015;

§    Nid yw CBC yn orfodol;

§    Mae Cymwysterau Cymru wrthi'n cynnal adolygiad o CBC (i'w gyhoeddi yn nhymor yr hydref).

2.       Trosolwg o Fagloriaeth Cymru

Comisiynodd Llywodraeth Cymru yr Adolygiad Annibynnol o Gymwysterau (2012) a oedd yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru sefydlu model Bagloriaeth Cymru diwygiedig a mwy trylwyr.  Cafodd y CBC ei hail-ddylunio a chafodd y manylebau newydd eu dysgu o fis Medi 2015. Mae'r CBC ddiwygiedig yn seiliedig ar Dystysgrif Her Sgiliau, sydd wedi'i graddio, a Chymwysterau Cefnogi. 

Fe'i dyfernir ar dair lefel:

§    Bagloriaeth Sylfaen Cymru (lefel 1) i'w defnyddio yng Nghyfnod Allweddol 4 neu ôl-16;

§    Bagloriaeth Cenedlaethol Cymru (lefel 1) i'w defnyddio yng Nghyfnod Allweddol 4 neu ôl-16;

§    Bagloriaeth Uwch Cymru (lefel 3) i'w defnyddio ôl-16 yn unig.

Ochr yn ochr â'r Dystysgrif Her Sgiliau, mae dysgwyr yn cyflawni detholiad o gymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch a chymwysterau galwedigaethol sy'n briodol i'w hanghenion er mwyn ennill CBC.

3.       Natur orfodol CBC

Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi nad yw CBC yn orfodol i ddisgyblion.  Yng nghyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 18 Hydref 2017, dywedodd Darren Millar AC fod rhai ysgolion yn mynegi pryderon eu bod bron yn teimlo eu bod yn cael eu gorfodi i sicrhau bod Bagloriaeth Cymru yn rhywbeth y mae'n rhaid ei gyflawni ôl 16.  Mewn ymateb, dywedodd Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:

The decision to allow some students not to participate has to be a decision for the headteachers in those classrooms, but I am clear that there are very real benefits to Welsh students studying the Welsh baccalaureate. We encourage schools and colleges to be able to allow their students to do it, but for each individual student, that has to be a decision for the headteacher within that school; I can’t micromanage that process. I’m sure that if a headteacher genuinely thought that somebody’s chances of obtaining a place at Oxford or Cambridge or a Russell Group university were severely being disadvantaged because of participating in the Welsh bac, those professional people would make the right decisions. Because, once again, it’s a badge of honour for a school to get pupils into Oxford and Cambridge or Russell Group universities; that’s one of the ways in which they demonstrate their success as an institution. So, I think it would be massively inconceivable that a school would go out of its way to force a pupil to do a qualification if they genuinely believed that that was jeopardising their chances of that student going on to fulfil their potential.

Eglurodd swyddog Ysgrifennydd y Cabinet fod Llywodraeth Cymru yn annog pobl ifanc i fanteisio ar CBC ôl-16.  Dywedodd:

The documentation is equally clear with the phraseology, ‘where appropriate’. So, there isn’t the expectation that every young person in full-time learning in Wales at post 16 will undertake the Welsh baccalaureate. It has many advantages as a qualification—some of them around the employability skills that were referred to earlier in committee—and it does produce, for those who take it, perhaps a more rounded individual than somebody just undertaking an academic period of study, but it is not compulsory and it is down to the institution and the learner to decide whether or not they were going to undertake that qualification.

4.        Prifysgolion yn derbyn CBC

Mewn tystiolaeth lafar i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 18 Hydref 2017, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet mewn perthynas â phrifysgolion yn derbyn CBC:

We are actively working with universities across the United Kingdom for recognition of the Welsh bac, and you’ll be aware that the reformed Welsh bac, which now has a grading system similar to that of A-levels, attracts UCAS points […] there are many, many universities that will use the UCAS point scores from a Welsh bac as part of the offer. For other universities, if they don’t do that, they use the process of a Welsh bac as a way of differentiating Welsh students from other students, because our students undertaking this course have got a personal statement and an interview perspective that I believe sets them apart, because they’re able to demonstrate that, ‘Yes, I can cope with an academic load’, which is what our Russell Group universities are looking for—‘I can cope with an academic load, but I’m not just about the academic; I’ve got a whole range and set of skills that I can bring to this university on top of those grades.’ So, I think we need to look at it in the round, at what it offers students.

Yn ddiweddarach ysgrifennodd at y Pwyllgor ar 31 Hydref 2017 yn nodi:

In May, I wrote to all university Vice Chancellors to seek assurance that their institutions would accept the reformed Welsh Baccalaureate - Advanced Skills Challenge Certificate (WBQ) as part of their future entry requirements or as part of an alternative offer. My officials are working with universities, including the Russell Group universities, to make sure that Welsh learners taking the WBQ are not disadvantaged when it comes to entry onto HE courses.

Universities, including Oxford and Cambridge, are clear that they value the WBQ and are taking an increasingly flexible approach to recognising it in their offers. The majority of HE institutions broadly recognise the WBQ as an appropriate qualification, although some universities and courses do not count it towards their entry requirements.

5.       Adolygiad o CBC

Yn ei thystiolaeth lafar i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 18 Hydref 2017, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:

Mae Adolygiad thematig gan Estyn ar y gweill i adolygu TGAU Saesneg, Cymraeg, Mathemateg a Mathemateg - Rhifedd a Bagloriaeth Cymru. Y meysydd allweddol a gwmpesir fydd llesiant dysgwyr, y profiad dysgu (gan gynnwys edrych ar newidiadau i drefniadaeth y cwricwlwm ar gyfer gweithredu'r cymwysterau TGAU newydd) ac arweinyddiaeth a rheolaeth (gan gynnwys prosesau ar gyfer rheoli newid ac olrhain a monitro cynnydd dysgwyr).

Mae llythyr cylch gwaith Estyn ar gyfer 2017/18 yn nodi y bydd yr adroddiad yn canolbwyntio ar gynllunio'r cwricwlwm a gweithredu'r TGAU newydd mewn Cymraeg a Saesneg ac mewn mathemateg a rhifedd, yn ogystal â Bagloriaeth newydd Cymru. Bydd yn cynnwys edrych ar ymagweddau tuag at geisiadau arholiadau.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd fod Cymwysterau Cymru wedi comisiynu adolygiad annibynnol o'r Dystysgrif Her Sgiliau a'i lle o fewn Bagloriaeth Cymru. Bydd yr adolygiad yn gwerthuso model dylunio ac asesu y Dystysgrif Her Sgiliau ar bob lefel.  Mae Estyn yn cysylltu â Cymwysterau Cymru wrth gyhoeddi ei adroddiadau er mwyn helpu i lywio barn Estyn wrth gynnal ei adolygiad.

Bydd Cymwysterau Cymru yn cyhoeddi ei adolygiad yn nhymor yr hydref.

 

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.